Opening Times

01407 731080

Login / Register

Europe

TAITH Y CYMRY 2027 – ANTUR I ALSACE, REIMS A CHAMPAGNE

16 June 2027

7 Days from just £1499.00

L'Europe Hotel 4*

REIMS ● CHAMPAGNE ● COLMAR ● STRASBOURG ● RIQUEWIHR ● RIBEAUVILLE

TYWYSYDD - LLION WILLIAMS

Mae i’r ardal hon o Ffrainc ei naws a’i chymeriad arbennig ei hun. Yn ffinio â’r Almaen a’r Swistir, fe’i nodweddir gan dai â fframiau pren amryliw, pentrefi tlws a threfi canoloesol a’r rheini’n fôr o flodau. Mae’r daith hon yn gyfle i ddarganfod awyrgylch unigryw yr ardal ac i weld ei phrif atyniadau fel tref fywiog Colmar, y “Llwybr Gwin” enwog a phrifddinas y rhanbarth sef Strasbourg.

Atodiad Sengl £250


Seat available
Seat taken

Tours in this Itinerary

Departing

16 Jun, 2027

Duration

7

Price

£1499

Hotel

L'Europe Hotel 4*

Title

TAITH Y CYMRY 2027 Alsace Strasbourg Reims Champagne


Manylion y Daith

Diwrnod 1: Teithio i Dover i ddal y fferi i Ffrainc. Yna ymlaen i ddinas Reims am swper, gwely a brecwast yng ngwesty Novotel Reims Tinqueux (4 seren).

Diwrnod 2:  Fore heddiw, cewch gyfle i grwydro a chael blas ar ddinas Reims a’i heglwys gadeiriol wych, cyn mwynhau taith o gwmpas un o’r “tai Champagne” enwog sy’n nodweddu’r ardal. Yno, cewch glywed hanes creu’r gwin pefriog arbennig a’r prosesau sydd ynghlwm â hynny, ac ar ddiwedd y daith, bydd cyfle i flasu’r hylif hyfryd! Yn y prynhawn, gadael Reims a theithio heibio Nancy i ardal Alsace lle byddwn yn aros am bedair noson (swper, gwely a brecwast) yn yr Hotel L’Europe Colmar Horburg-Wihr (4 seren).

Diwrnod 3: Ar ôl brecwast, dim ond taith fer o’r gwesty a byddwn yn nhref ddeniadol Colmar a elwir yn “Fenis Fach” oherwydd y camlesi niferus sydd yno. Mae’r Hen Dref hanesyddol yn cynnwys llu o dai pren lliwgar, caffis a thrysorau pensaernïol o gyfnod y Dadeni. Yn eu mysg mae’r farchnad dan do, Amgueddfa Unterlinden, a replica o “Gerflun Liberty”, gan mai dyma dref enedigol y cerflunydd Auguste Bartholdi. Cewch ddiwrnod rhydd yma i ddarganfod atyniadau’r dref fywiog hon sy’n wledd i’r llygad.

Diwrnod 4: Heddiw, teithiwn tua’r gogledd i ymweld â Strasbourg, un o ddinasoedd mwyaf deniadol Ewrop. Saif ger y ffin â’r Almaen, ac mae’r canol hanesyddol yn Safle Treftadaeth Byd UNESCO. Mae digon o fannau difyr i’w gweld, fel yr Eglwys Gadeiriol Gothig a llu o amgueddfeydd, yn ogystal â chaffis a bariau dirifedi. Rydym wedi cynnwys taith cwch ar un o gamlesi’r ddinas, sy’n ffordd wych o weld y golygfeydd i bob cyfeiriad. (Mae’n bosib y bydd taith ddirgel ychwanegol yn gynwysedig ar y diwrnod hwn hefyd – mwy o wybodaeth yn nes at y dyddiad!)

Diwrnod 5: Heddiw, byddwn yn cael cwmni tywysydd lleol i deithio ar hyd Llwybr Gwin enwog Alsace. Gyda bryniau’r ardal yn frith o winllannoedd a’r afon Rhein yn llifo drwyddi, mae llawer o drefi a phentrefi hardd i ymweld â nhw, nifer yn cael eu hystyried ymhlith y prydferthaf yn Ffrainc. Byddwn yn galw yn Riquewihr a elwir yn “Berl y Gwinllannoedd”, a Ribeauville gyda’i adeiladwaith canoloesol. Byddwn hefyd yn galw mewn gwinllan leol am daith o’i chwmpas a chyfle i flasu’r cynnyrch!

Diwrnod 6: Gadael Alsace a theithio i gyfeiriad Paris a dinas frenhinol Versailles. Teithiwn drwy gefn gwlad hyfryd Burgundy, gyda’i winllannoedd a’i drefi hardd. Cawn amser rhydd dros ginio yma cyn mynd ymlaen i westy Novotel Chateau de Versailles (4 seren) am swper, gwely a brecwast.

Diwrnod 7: Teithio i’r porthladd i ddal y fferi i Dover ac adref.

Gwesty

Novotel Reims Tinqueux****
Saif y gwesty 4 seren ar gyrion Reims, taith fer yn unig o ganol y ddinas. Yn cynnwys bar, bwyty, gardd a phwll nofio awyr agored.

Gwesty

Hotel L’Europe Colmar Horburg-Wihr****
Saif y gwesty 4 seren modern a chyfforddus ym mhentref Horburg-Wihr, ar gyrion Colmar. Mae’n cynnwys bar, lolfa gyda theras hyfryd, gardd a phwll nofio dan do.

Gwesty

Novotel Chateau de Versailles****
Gwesty modern 4 seren o fewn pellter cerdded i ganol Versailles a phrif fynedfa’r Palas. Mae’n cynnwys bar, lolfa, bwyty ac ystafelloedd cyfforddus.

Cynnwys

  • 2 Noson swper, gwely a brecwast yn y gwestai dros nos
  • 4 Noson swper, gwely a brecwast – Hotel L’Europe Colmar Horburg-Wihr (4*)
  • Croesiadau fferi ddwy ffordd – Dover/Calais
  • 25cl o win, dŵr a choffi gyda swper yn y prif westy
  • Taith o gwmpas Tŷ Siampên yn Reims neu Epernay
  • Taith a blasu gwin mewn gwinllan ar Lwybr Gwin Alsace
  • Taith cwch ar gamlas yn Strasbourg gyda sylwebaeth audio
  • Taith ddirgel ychwanegol yn Strasbourg (i’w chadarnhau)
  • Tywysydd lleol am y diwrnod yn Alsace
  • Dan arweiniad Llion Williams, a fydd yn darparu sylwebaeth drwy gydol y daith