Diwrnod 1: Ymadael Gogledd Cymru yn y bore a theithio tua’r gogledd i Gretna Green, lle cewch ychydig o amser rhydd i fwynhau’r pentref a’i atyniadau. Yna parhau â’n taith i Westy Buchanan Arms ger Loch Lomond ar gyfer arhosiad o 3-noson.
Heno, mwynhewch swper blasus a noson o adloniant Albanaidd i’ch croesawu’n gynnes i’r ardal.
Diwrnod 2: Heddiw mae diwrnod llawn cyffro yn Glasgow yn eich disgwyl, gyda thaith gynhwysfawr o amgylch y ddinas ar y bws yng nghwmni tywysydd lleol sy’n rhannu hanes, straeon a golygfeydd trawiadol y ddinas. Byddwch yn darganfod ei phensaernïaeth eiconig, ei strydoedd bywiog a’i chorneli cudd cyn dychwelyd i’r gwesty.
Mwynhewch swper blasus cyn noson o adloniant arbennig gyda pherfformiadau bendigedig gan Bwncath a Tant, fydd yn creu awyrgylch fywiog a chofiadwy i gloi’r diwrnod.
Diwrnod 3: Taith hwyr y bore i St Andrews sy’n cynnig cyfle perffaith i ymlacio ac amsugno naws unigryw’r dref hanesyddol. Ar ôl cyrraedd, cewch amser i grwydro strydoedd cul y canolbwynt, ymweld â’r siopau annibynnol, neu fwynhau golygfeydd trawiadol yr arfordir a’r cwrs golff byd-enwog.
Wrth i’r diwrnod ddirwyn i ben, byddwn yn ymgynnull ar gyfer swper olaf y daith, cyn mwynhau noson arall o adloniant arbennig gyda pherfformiadau gan Bwncath a Tant, fydd yn creu diweddglo cofiadwy i’n antur.
Diwrnod 4: Ffarwelio a’r Alban a theithio i Wasanaethau Tebay ger Penrith, man gorffwys sy’n enwog am ei siopau lleol a’i awyrgylch croesawgar. Bydd digon o amser i bori drwy’r siopau, prynu nwyddau gan gynhyrchwyr lleol neu i fwynhau cinio cyn i ni barhau â’r daith yn ôl i Ogledd Cymru.