Opening Times

01407 731080

Login / Register

Wales

CAERDYDD A OPERA HEDD WYN – EISTEDDFOD ATOMIG YNG NGHANOLFAN MILENIWM CYMRU

21 May 2027

3 Days from just £459.00

Hilton Cardiff 4*

Mae’r penwythnos yma yng Nghaerdydd yn cynnig cymysgedd perffaith o siopa, diwylliant a golygfeydd trawiadol. O grwydro strydoedd prysur canol Caerdydd i fwynhau awyrgylch hanesyddol y castell a’r bae, mae’r ddinas yn cyfuno modernedd a threftadaeth mewn ffordd unigryw.

Uchafbwynt y daith yw’r nos Sadwrn, gyda pherfformiad o’r opera Hedd Wyn: Eisteddfod Atomig yn Nghanolfan Mileniwm Cymru - profiad emosiynol ac ysbrydoledig sy’n ychwanegu naws artistig gofiadwy at y penwythnos.

Atodiad sengl: £125


Seat available
Seat taken

Tours in this Itinerary

Departing

21 May, 2027

Duration

3

Price

£459

Hotel

Hilton Cardiff 4*

Title

Caerdydd a Opera Hedd Wyn Eisteddfod Atomig


Trosolwg o Hedd Wyn: Eisteddfod Atomig

Trawsfynydd, 2117

200 mlynedd ar ôl marwolaeth y bardd, Hedd Wyn, mae grŵp o bererinion yn dychwelyd i Drawsfynydd - sydd bellach yn ardal waharddedig yn dilyn trychineb ynyr orsaf bŵer niwclear gyfagos - i ailgysylltu â’u treftadaeth Gymreig.

Gan ddisgwyl taith goffa o amgylch cartref teuluol Hedd Wyn, maent yn hytrach yn camu i dirwedd doredig lle mae ymbelydredd wedi gwneud amser ei hun yn aneglur. Mae’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol yn gwrthdaro ac mae ysbrydion hanes a chwedl yn cerdded ochr yn ochr â’r gymuned wtopaidd fechan sydd ar ôl.

Wedi’u tywys gan oroeswyr rhyfedd y drychineb, mae’r grŵp yn mentro'n ddyfnachi’w hanes a gwraidd mytholeg Cymru tra bod gweledigaethau gwrthdrawiadol argyfer dyfodol Cymru yn ymddangos, ac mae etifeddiaeth Hedd Wyn yn cael ei hail lunio a’i wyrdroi yn enw dechreuad newydd peryglus.

O ddychymyg Gruff Rhys, gyda cherddoriaeth gan Stephen McNeff a chyfarwyddyd gan Steffan Donnelly, mae Hedd Wyn: Eisteddfod Atomig yn opera newydd gythryblus sy’n ystyried sut y gellir camddehongli, mytholegu ac adennill stori’r bardd. Mae’n gofyn pwy sy’n cael penderfynu beth mae ei waddol yn ei olygu i Gymru heddiw?

Cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru a Theatr Cymru

Manylion y Daith

Diwrnod 1: Cychwyn am Gaerdydd a teithio drwy’r bore i gyrraedd yn gynnar yn y prynhawn. Byddwn yn aros yng Ngwesty’r Hilton am 2-noson (swper, gwely a brecwast). Mae gweddill y diwrnod yn rhydd i grwydro prifddinas fywiog Cymru.

Diwrnod 2: Ar ôl brecwast, treuliwch ddiwrnod rhydd yng Nghaerdydd, gallwch grwydro’r ddinas, gan siopa yn y canolfannau prysur neu mwynhau’r prif atyniadau a’r golygfeydd diwylliannol.

Wedi diwrnod o fentro, dychwelwch i’r gwesty ar gyfer swper cynnar cyn i’r bws eich cludo i Ganolfan Mileniwm Cymru ar gyfer y perfformiad o Hedd Wyn: Eisteddfod Atomig. Ar ddiwedd y perfformiad, bydd y bws yn eich trosglwyddo’n ôl i’r gwesty, gan gwblhau noson gofiadwy o gerddoriaeth a diwylliant.

Diwrnod 3: Bore rhydd arall yng Nghaerdydd – cyfle olaf i grwydro’r siopau! Bydd y bws yn gadael Caerdydd am 2.00pm ar gyfer y daith yn ôl i ogledd Cymru.

Gwesty

Gwesty Hilton, Canol Caerdydd****

Mae Gwesty’r Hilton yn westy moethus yng nghanol y ddinas, gyferbyn â Chastell Caerdydd ac o fewn pellter cerdded i brif atyniadau, siopau a bwytai’r brifddinas.

Mae’r ystafelloedd eang a chyfforddus yn cynnig cyfleusterau modern, tra bo’r gwesty hefyd yn cynnwys bwyty soffistigedig, bar hamddenol a chanolfan hamdden gyda phwll nofio a sba.

Gyda’i wasanaeth croesawgar a’i leoliad delfrydol, mae’n fan perffaith i ymlacio ar ôl diwrnod o archwilio’r ddinas neu fwynhau noson allan yng Nghaerdydd.

Cynnwys

  • 2 Noson Swper, Gwely a Brecwast yng Ngwesty Hilton (4-seren, yng nghanol Caerdydd)
  • Tocyn i Opera Hedd Wyn: Eisteddfod Atomig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
  • Trosglwyddiad bws dwy ffordd o’r gwesty i Ganolfan Mileniwm Cymru ar y nos Sadwrn