Tiffany's Hotel
TUDUR WYN, TRI DIGRI, DYLAN A NEIL, MÔNSŴN A LLION WILLIAMS
Penwythnos o Hwyl a Sbri!
Ymunwch â ni ar benwythnos o adloniant arbennig yn Blackpool, lle bydd y perfformwyr yn dod at ei gilydd i greu profiad bythgofiadwy. Bydd y canwyr Tudur Wyn, Dylan a Neil a MônSŵn, y digrifwyr Tri Digri yn ogystal â Llion Williams yn sicrhau awyrgylch fywiog bob nos.
Be well na penwythnos o chwerthin a chwmni da— sy’n gaddo atgofion cynnes ac adloniant di-ben-draw.
Atodiad Sengl £20
Blog MônSŵn:
Mae MônSŵn yn mwynhau canu a pherfformio, ac fe ffurfiwyd y grŵp gyda’r bwriad o gefnogi achosion da, nosweithiau llawen a chyngherddau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt.
Mae’r grŵp yn hoff iawn o ganu a pherfformio caneuon poblogaidd Cymreig gan gynnwys rhai Bryn Fôn, Dafydd Iwan, Meic Stevens, Mynediad am Ddim, Edward H Dafis- rhai o sêr mwyaf y Genedl.
Maent hefyd yn canu caneuon Saesneg gan artistiad yn cynnwys Elvis Presely, Y Beatles, John Denver, Simon a Garfunkel a Tom Jones.
Mae MônSŵn yn hoff iawn o ganu a diddanu cynulleidfaoedd lle bynnag y byddant yn ymddangos.
Mae gan MônSŵn erbyn hyn aelodaeth o 16 o gantorion o dan arweiniad y cyfeilydd Huw Harvey.