Fferm Penglais - Coleg Aberystwyth
PECYN 6: 3 – 4 Awst 2026 (2 Ddiwrnod, Dydd Llun i Ddydd Mawrth)
Llety - Fferm Penglais ar Gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth
MYNEDIAD I’R MAES DDIM YN GYNWYSEDIG
Mae'r Eisteddfod yn dod i ardal Y Garreg Las ym mis Awst 2026. Mae Sir Benfro i gyd yn y dalgylch, yn ogystal â rhannau o dde Ceredigion a Sir Gâr.
Mae’r daith hon wedi ei leoli yn Fferm Penglais ar Gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, gyda theithio dyddiol ar fws i’r Eisteddfod, sy’n daith o tua awr.
Mae Fferm Penglais yn cynnig llety modern o safon uchel ar Gampws Penglais, gyda fflatiau hunanarlwyo sy’n cynnwys chwe neu wyth ystafell wely ensuite. Mae pob ystafell ar gyfer un person yn unig ac mae pob un yn cynnwys gwely dwbl. Mae’r adeiladau’n newydd, yn eang ac wedi’u cynllunio i greu amgylchedd cyfforddus a chymunedol, gyda cheginau a mannau cymdeithasol modern.
Roedd pob teithiwr yn fodlon iawn â’r llety pan ddefnyddwyd ar gyfer yr Eisteddfod yn Nhregaron.
Gan fod angen i’r Brifysgol gynllunio ar gyfer staffio digonol, os ydych yn bwriadu teithio, bydd angen archebu erbyn mis Ebrill 2026.
Atodiad Sengl: Dim