Fferm Penglais - Coleg Aberystwyth
PECYN 3: 1 – 4 Awst 2027 (4 Diwrnod, Dydd Sul i Ddydd Mercher)
Llety - Fferm Penglais ar Gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth
MYNEDIAD I’R MAES DDIM YN GYNWYSEDIG
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn Meirionnydd rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst 2027. Lleolir y Brifwyl yn ardal Glantwymyn, Powys. Dyma'r tro cyntaf i'r ŵyl fawr ddychwelyd i'r ardal hon ers 2015.
Mae’r daith hon wedi ei leoli yn Fferm Penglais ar Gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, gyda theithio dyddiol ar fws i’r Eisteddfod.
Mae Fferm Penglais yn cynnig llety modern o safon uchel ar Gampws Penglais, gyda fflatiau hunanarlwyo sy’n cynnwys chwe neu wyth ystafell wely ensuite. Mae pob ystafell ar gyfer un person yn unig ac mae pob un yn cynnwys gwely dwbl. Mae’r adeiladau’n newydd, yn eang ac wedi’u cynllunio i greu amgylchedd cyfforddus a chymunedol, gyda cheginau a mannau cymdeithasol modern.
Roedd pob teithiwr yn fodlon iawn â’r llety pan ddefnyddwyd ar gyfer yr Eisteddfod yn Nhregaron.
Atodiad Sengl: Dim