Opening Times

01407 731080

Login / Register

Wales

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2026 – EISTEDDFOD Y GARREG LAS, SIR BENFRO

02 August 2026

6 Days from just £599.00

Fferm Penglais - Coleg Aberystwyth

PECYN 3: 2 – 7 Awst 2026 (6 Diwrnod, Dydd Sul i Ddydd Gwener)

Llety - Fferm Penglais ar Gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth

MYNEDIAD I’R MAES DDIM YN GYNWYSEDIG

Mae'r Eisteddfod yn dod i ardal Y Garreg Las ym mis Awst 2026. Mae Sir Benfro i gyd yn y dalgylch, yn ogystal â rhannau o dde Ceredigion a Sir Gâr.

Mae’r daith hon wedi ei leoli yn Fferm Penglais ar Gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, gyda theithio dyddiol ar fws i’r Eisteddfod, sy’n daith o tua awr.

Mae Fferm Penglais yn cynnig llety modern o safon uchel ar Gampws Penglais, gyda fflatiau hunanarlwyo sy’n cynnwys chwe neu wyth ystafell wely ensuite. Mae pob ystafell ar gyfer un person yn unig ac mae pob un yn cynnwys gwely dwbl. Mae’r adeiladau’n newydd, yn eang ac wedi’u cynllunio i greu amgylchedd cyfforddus a chymunedol, gyda cheginau a mannau cymdeithasol modern.

Roedd pob teithiwr yn fodlon iawn â’r llety pan ddefnyddwyd ar gyfer yr Eisteddfod yn Nhregaron.

Gan fod angen i’r Brifysgol gynllunio ar gyfer staffio digonol, os ydych yn bwriadu teithio, bydd angen archebu erbyn mis Ebrill 2026.

Atodiad Sengl: Dim


Seat available
Seat taken

Tours in this Itinerary

Departing

2 Aug, 2026

Duration

6

Price

£599

Hotel

Fferm Penglais - Coleg Aberystwyth

Title

GRP1 2-7Awst20265NosonG&B6Diwrnod Eisteddfod Aberystwyth


Manylion y Daith

Diwrnod 1: Cychwyn ganol bore a teithio yn hamddenol i’r llety yn Aberystwyth. Bydd gweddill y dydd yn rhydd yn y dref.

Diwrnod 2, 3, 4 a 5: Bydd y bws yn eich cludo o’r llety ar gyfer brecwast, sy’n gynnwysedig. Ar ôl brecwast, ymlaen i faes yr Eisteddfod, tua awr o siwrne.  Rydym yn gobeithio cyrraedd yr Eisteddfod erbyn 10.15 bob bore.

Mwynhewch ddiwrnod llawn ar y Maes cyn dychwelyd i’r gwesty ar ddiwedd y dydd am 6.00yh.

Os y dymunwch dreulio un o’r diwrnodiau yn Aberystwyth yn lle mynd i Faes yr Eisteddfod, mae yno ddigon o atyniadau i’ch cadw yn brysur.

Diwrnod 6: Cyfle olaf i fwynhau bwrlwm y Maes cyn y byddwn yn dychwelyd adref ar ôl seremoni’r Cadeirio.

Llety

Fferm Penglais, Campws Prifysgol Aberystwyth

Llety o’r radd flaenaf wedi’i ysbrydoli gan y dirwedd a phensaerniaeth cefn gwlad Cymru. Ystafelloedd ensuite hael gyda gwelyau cyfforddus.

Cegin cynllun agored a lolfeydd yn cynnwys teledu sgrin fflat, peiriant golchi llestri a Wi-fi.

Fferm Penglais yw'r llety prifysgol cyntaf i gael 5* gan Croeso Cymru o fewn catergori llety campws. Mae’r fflatiau yn cynnwys 6 neu 8 ystafell gyda cegin i’w rhannu.

Cynnwys

  • 5 Noson Gwely a Brecwast
  • Bws moethus ar gyfer taith gyfforddus i'r de
  • Teithio dyddiol o Penglais ar gyfer brecwast ac yno ymlaen i Faes yr Eisteddfod