Opening Times

01407 731080

Login / Register

England

TAITH HANES CYMRY LERPWL GYDA GARI WYN

26 June 2026

3 Days from just £399.00

Mercure Haydock 4* Spa

A CHYNGERDD GANOL HAF CYMDEITHAS CORAU MEIBION CYMRU – EGLWYS GADEIRIOL LERPWL

LLE I 50 YN UNIG

Dewch ar daith arbennig iawn i Lerpwl a dysgu am ryfeddodau'r ddinas hon gan yr hanesydd Gari Wyn. Cewch ddysgu am ddylanwad amrywiol y Cymry ar Lerpwl. Dewch ar y daith ac fe gewch wledd ym mhob ystyr!

Yn ogystal i’r daith gan Gari, rydym wedi cynnwys tocyn i Gyngerdd Ganol Haf Cymdeithas Corau Meibion Cymru yn Eglwys Gadeiriol Lerpwl. Y cyngerdd yw un o uchafbwyntiau cerddorol y flwyddyn, gan ddod â lleisiau pwerus a thraddodiad cyfoethog canu gwlad i un o adeiladau mwyaf trawiadol Prydain.

Bydd y perfformwyr yn cynnwys:

450 O GANTORION
ALWYN HUMPHREYS
WYNNE EVANS
ALIS HUGHES

Atodiad Sengl £60


Seat available
Seat taken

Tours in this Itinerary

Departing

26 Jun, 2026

Duration

3

Price

£399

Hotel

Mercure Haydock 4* Spa

Title

Taith Hanes Cymry Lerpwl a Chyngerdd Canol Haf Corau Meibion


Manylion y Daith

Diwrnod 1 (Dydd Gwener): Teithio i Lerpwl a chael taith o amgylch y ddinas gyda Gari. Bydd y daith yn rhannu’n ddau brif ran ac mewn sawl ffordd yn wahanol I’r teithiau a gynhaliwyd o’r blaen. 

Byddwn yn canolbwyntio ar hanes unigolion a lleoliadau gwahanol gan drafod rhai o’r Cymry hynny fu mor ddylanwadol yn y ddinas rhwng 1770 a 1950. 

Byddwn yn defnyddio’r bws gan stopio yma ac acw ger safleodd pwysig megis lleoliad Capeli, strydoedd Sioraidd, mynwentydd (Smithdown Road ac Anfield), ac yn crynhoi gorchestion y Cymry o safbwynt busnesau, adeiladau, y porthladd, y capeli anghydffurfiol a’r wasg argraffu cymreig. 

Byddwn yn trafod gwaith Alfred Lewis Jones y llongwr, Owen Elias a David Hughes a William Klondyke Jones, yr adeiladwyr strydoedd.

Cawn ymweld a beddau deg o’r cymeriadau amlycaf yn y stori ac asesu effaith hanner cant o gapeli yn nhwf y ddinas drwy’r cyfnod Fictorianaidd. Cewch werthfawrogi a rhyfeddu at bennod o hanes Cymru na chafodd ei gwir werthfawrogi gan ein haneswyr a’r cyfryngau, cawn drafod hanes nifer o unigolion mentrus a chyd ganu un neu ddwy o gyfansoddiadau y llenorion cymreig amlwg a fagwyd yn Lerpwl.

Byddwn hefyd yn ymweld a’r safleoedd ble cynhaliwyd tair Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl rhwng 1884 a 1929, a chael golwg ar gadeiriau y beirdd buddugol yng nghyntedd Neuadd y Dref.

Hyn a llawer mwy, bydd y daith yn wledd o hanes a byddwch yn falch eich bod wedi dod!

**Mae’r daith yma yn golygu cryn dipyn o gerdded, felly mae gofyn i bob unigolyn fod gallu gwneud hyn yn ddi drafferth.

 

Diwrnod 2 (Dydd Sadwrn): Brecwast yn y gwesty, yna bydd y bws yn eich cludo i ganol dinas Lerpwl. Mwynhewch diwrnod rhydd yng nghanol y ddinas i grwydro heb frys. Mae strydoedd bywiog y ddinas yn llawn siopau annibynnol, caffis clyd a cherddoriaeth fyw sy’n ymddangos o bob cornel. Gellir cerdded ar hyd Pier Head i fwynhau golygfeydd o’r Mersey, neu dreulio amser yn yr Albert Dock yn edrych ar yr amgueddfeydd.

Byddwn yn dychwelyd i’r gwesty yn ystod y prynhawn ar gyfer swper cynnar cyn y daith bws i Eglwys Gadeiriol Lerpwl ar gyfer Cyngerdd Ganol Haf Cymdeithas Corau Meibion Cymru. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i bawb ymlacio, mwynhau’r bwyd ac adnewyddu cyn i ni gychwyn ar y siwrnai fer i’r safle trawiadol hwn ar gyfer y cyngerdd.

Mae’r cyngerdd yn cyfuno emynau, caneuon poblogaidd Cymreig a threfniadau corawl newydd, gan greu awyrgylch sy’n llawn balchder diwylliannol ac emosiwn. Wrth i’r sain lenwi’r gofod enfawr o dan y nenfwd gothig, mae’r gynulleidfa’n profi cymysgedd unigryw o rym, tynerwch a chydwead artistig sy’n adlewyrchu hanfod corau meibion Cymru.

Bydd y bws yn eich cludo yn ôl i’r gwesty ar ddiwedd y perfformiad.

Diwrnod 3 (Dydd Sul): Bydd gennych ddiwrnod rhydd arall yn Lerpwl i siopa neu ymweld â’r prif atyniadau. I’r rhai sy’n dymuno, mae croeso i chi ymuno â’r oedfa fore yn Nghapel Bethel ar Heol Heathfield. Byddwn yn dychwelyd adref i Ogledd Cymru yn ystod y prynhawn.

Gwesty

Gwesty Mercure Haydock****
Mae Gwesty Mercure Haydock mewn lleoliad sy’n cyfuno cyfforddusrwydd modern ag awyrgylch o harddwch traddodiadol. Wedi’i fodelu ar arddull plasdy gwledig, mae’r gwesty’n cynnig ystafelloedd eang, gardd hyfryd a chyfleusterau hamdden rhagorol sy’n cynnwys pwll nofio dan do a chanolfan ffitrwydd. Mae’r staff yn groesawgar ac yn barod i helpu, gan sicrhau profiad hamddenol a phleserus i westeion. Gyda’i leoliad cyfleus ger prif lwybrau teithio, mae’n fan delfrydol ar gyfer archwilio’r ardal neu ymlacio mewn amgylchedd heddychlon.

Cynnwys

  • 2 Noson Swper, Gwely a Brecwast
  • Taith arbennig a diddorol o amgylch Lerpwl ar y bws ac ar droed gyda Gari Wyn
  • Bws moethus ar gyfer taith gyfforddus i Lerpwl
  • Tocyn i Gyngerdd Canol Haf Cymdeithas Corau Meibion Cymru yn Eglwys Gadeiriol Lerpwl
  • Trosglwyddiad bws dwy ffordd o’r gwesty i Gadeirlan Lerpwl ar y nos Sadwrn
  • Opsiwn o fynychu gwasanaeth Capel Bethel ar y bore Sul