Opening Times

01407 731080

Login / Register

Wales

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2026 – EISTEDDFOD Y GARREG LAS, SIR BENFRO

02 August 2026

6 Days from just £899.00

Gwesty Marine Aberystwyth

PECYN 2: 2 – 7 Awst 2026 (6 Diwrnod, Dydd Sul i Ddydd Gwener)

Gwesty a Sba’r Marine Aberystwyth***

MYNEDIAD I’R MAES DDIM YN GYNWYSEDIG

Mae'r Eisteddfod yn dod i ardal Y Garreg Las ym mis Awst 2026. Mae Sir Benfro i gyd yn y dalgylch, yn ogystal â rhannau o dde Ceredigion a Sir Gâr.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad o ddiwylliant a’r iaith yma yng Nghymru ac fe’i chynhelir yn ystod wythnos gyntaf Awst bob blwyddyn. Mae'r ŵyl yn teithio o le i le, gan ymweld â gogledd a de Cymru bob yn ail, a denu tua 150,000 o ymwelwyr a thros 250 o stondinau.


Seat available
Seat taken

Tours in this Itinerary

Departing

2 Aug, 2026

Duration

6

Price

£899

Hotel

Gwesty Marine Aberystwyth

Title

Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las - Gwesty Marine


Manylion y Daith

Diwrnod 1: Cychwyn ganol bore a teithio yn hamddenol i’r gwesty yn Aberystwyth. Bydd gweddill y dydd yn rhydd yn y dref.

Diwrnod 2, 3, 4 a 5: Ar ôl brecwast bydd y bws yn eich cludo o’r gwesty i faes yr Eisteddfod. Mwynhewch ddiwrnod llawn ar y Maes cyn dychwelyd i’r gwesty ar ddiwedd y dydd am 6.00yh.

Os y dymunwch dreulio un o’r diwrnodiau yn Aberystwyth yn lle mynd i Faes yr Eisteddfod, mae yno ddigon o atyniadau i’ch cadw yn brysur.

Diwrnod 6: Cyfle olaf i fwynhau bwrlwm y Maes cyn y byddwn yn dychwelyd adref ar ôl seremoni’r Cadeirio.

Gwesty

Gwesty a Sba’r Marine Aberystwyth***

Mae Gwesty'r Marine, sydd wedi'i lleoli ar bromenâd hyfryd Aberystwyth, wedi cael ei rhedeg gan yr un teulu ers dros 30 mlynedd, a bellach yn croesawu'r drydedd genhedlaeth i redeg y gwesty! Mae’r gwesty wedi ei leoli yn ddigon agos i ganol y dref ond y tu hwnt i firi’r dref.

Mae’r Sba arfordirol yn cynnig yr encilfa berffaith i chi ymlacio ac ymbleseru ynddi wrth fanteisio ar driniaethau esmwythaol. Bydd llonyddwch y cyfleusterau tanddaearol yn eich galluogi i ddatgysylltu'n llwyr oddi wrth brysurdeb eich bywyd bob dydd.

Gall pob un o westeion y Gwesty ddefnyddio’r cyfleusterau Sba yn rhad ac am ddim. Pan fyddwch yn cyrraedd, ewch i'r dderbynfa i archebu amser ymlaen llaw er mwyn defnyddio'r cyfleusterau.

Cynnwys

  • 5 Noson Swper, Gwely a Brecwast
  • Bws moethus ar gyfer taith gyfforddus i'r de
  • Teithio dyddiol o'r gwesty i Faes yr Eisteddfod