Opening Times

01407 731080

Login / Register

Ireland

TAITH Y CYMRY 2026 – IWERDDON AC INIS MOR – “Y DA O DDWY YNYS”

18 June 2026

7 Days from just £1199.00

Flannery's Hotel Galway 3*

DAN ARWEINIAD LLION WILLIAMS

INIS MOR ● NODDFA MULOD IWERDDON ● TŶ A GERDDI FOTA, KINSALE ● LIMERICK ● CASTELL A PHARC GWERIN BUNRATTY ● GWLEDD CANOLOESOL, CASTELL BUNRATTY ● ‘TITANIC EXPERIENCE’, COBH ● CORC ● CANOLFAN NEWBRIDGE SILVERWARE, KILDARE

Dewch gyda ni ar daith gyffrous i gael blas ar yr Iwerddon go iawn. Cawn ymweld ag un o gadarnleoedd yr iaith Wyddeleg – y fwyaf o Ynysoedd Aran sef Inis Mor – a gwledda fel uchelwyr canoloesol yng Nghastell Bunratty – profiad bythgofiadwy i bawb!

Atodiad Sengl £240


Seat available
Seat taken

Tours in this Itinerary

Departing

18 Jun, 2026

Duration

7

Price

£1199

Hotel

Flannery's Hotel Galway 3*

Title

Taith y Cymry 2026 - Iwerddon Yr Ynys Werdd ac Ynysoedd Aran


Manylion y Daith

Diwrnod 1: Teithio i Gaergybi i ddal y fferi. Ymlaen â ni wedyn i gyrion Galway a gwesty Flannery’s, 3 seren (2 noson, swper, gwely a brecwast)

Diwrnod 2: Diwrnod anturus heddiw – taith cwch i Inis Mor ym mae Galway. Wedi glanio, bydd bwsiau mini yn aros amdanom i fynd â ni ar daith o gwmpas yr ynys. Bu pobl yn byw arni ers milenia, ac mae’n gymysgedd gwych o olygfeydd godidog, bywyd gwyllt arbennig ac olion hanesyddol niferus. Yma y bu Dr Harri Pritchard Jones o Ynys Môn yn feddyg am gyfnod, wedi iddo raddio yn Nulyn a dysgu’r iaith frodorol, ac yma y dechreuodd lenydda am y tro cyntaf. Siawns na chawn ninnau glywed yr ynyswyr yn siarad Gwyddeleg hefyd!

Diwrnod 3: Ymadael â Galway a theithio i Swydd Corc. Ar y ffordd byddwn yn galw yn Noddfa Mulod Iwerddon sy’n gofalu am lu o’r anifeiliaid hyn a chawn gyfle i gwrdd â nhw ac ymweld â’r caffi a’r siop. Ymlaen wedyn i westy Charleville Park, Charleville, 4 seren (4 noson gwely a brecwast, 3 swper nos).

Diwrnod 4: Ymweld a Thŷ a Gerddi Fota, Kinsale. Mae’r plasty hwn o gyfnod y Rhaglywiaeth (Regency) yn un o berlau Iwerddon. Mae’n llawn trysorau a lluniau hardd sy’n wefr i’r llygad, ac mae’r gerddi’n cynnwys planhigion egsotig sydd wedi ffynnu yno ers dros 200 mlynedd.

Diwrnod 5: Dinas brysur Limerick ar lan yr afon Shannon fydd ein cyrchfan gyntaf heddiw. Cyfle i grwydro’r siopau cyn mynd ymlaen i Gastell a Pharc Gwerin Bunratty – un o brif atyniadau’r ynys. Mae’r safle – fel Sain Ffagan yng Nghymru – yn llawn adeiladau o bob math i grwydro o’u cwmpas – tai, ysgol, eglwys, tafarn, siop a mwy – sy’n dod â’r gorffennol yn fyw. Gyda’r nos cawn fwynhau Gwledd Ganoloesol yng Nghastell Bunratty. Mae’r wledd hon yn un o uchafbwyntiau ein taith ac yn brofiad anhygoel, gyda chantorion, offerynwyr a dawnswyr yn eu gwisgoedd traddodiadol yn ein diddanu tra byddwn yn gwledda. Wnewch chi byth ei anghofio!!

Diwrnod 6: Heddiw byddwn yn ymweld â thref glan môr Cobh. Yr hen enw arni oedd Queenstown, ac yma y bu’r Titanic yn angori am y tro olaf cyn croesi’r Iwerydd ar ei thaith gyntaf drasig. Ar y cei, cawn ymweld â’r “Titanic Experience” a fydd yn rhoi cipolwg ar fywyd y teithwyr ar fwrdd y llong enwog. Ymlaen wedyn i ddinas Corc, sy’n adnabyddus am ei “Marchnad Seisnig” hynafol a bywiog, sy’n werth ymweld a hi os cewch gyfle. Cawn alw yng Nghastell Blarney, un o safleoedd enwocaf Iwerddon, cyn dychwelyd i’r gwesty.

Diwrnod 7: Cychwyn am adre. Byddwn yn galw yng nghanolfan Newbridge Silverware yn Kildare, sy’n cynnwys yr Amgueddfa Eiconau Ffasiwn, lle cewch weld gwisgoedd a arferai fod yn eiddo i’r Dywysoges Diana, y Beatles, Michael Jackson a llawer mwy. Gwerth eu gweld!

Gwesty

Gwesty Flannery’s, Galway (3 seren)

Mae Gwesty Flannery’s wedi ei leoli yn agos i ddinas Galway ac yn cynnwys ystafelloedd gyda Wi-Fi am ddim, Bwyty’r Galwegian a Bar a Bistro Frankie’s.

Mae gan ystafelloedd Flannery’s ddodrefn pren, drychau mawr a gwelyau cyfforddus. Maent yn cynnwys setiau teledu, desgiau gwaith a chyfleusterau gwneud te/coffi.

Gwesty

Gwesty Charleville Park, Charleville (4 seren)

Wedi ei leoli ger Charleville, rhwng Corc a Limerick. Mae ganddo glwb hamdden, campfa a mynediad Wi-Fi am ddim.

Mae cyfleusterau’r clwb hamdden yn cynnwys pwll nofio 25 metr, sawna, ystafell stêm phyllau sba y gall gwesteion eu defnyddio am ddim. Gweinir bwyd Gwyddelig modern ym Mwyty Greenfinch a mae detholiad o ddiodydd a bwyd hefyd ar gael yn y bar.

Cynnwys

  • 2 Noson Swper, Gwely a Brecwast yng Ngwesty Flannery’s, Galway
  • 4 Noson Gwely a Brecwast yng Ngwesty Charleville Park, Charleville
  • 3 Swper Nos yng Ngwesty Charleville Park, Charleville
  • 1 Noson Gwledd Ganoloesol yng Nghastell Bunratty
  • Croesiadau fferi dwy ffordd o Gaergybi i Ddulyn
  • Croesiadau fferi dwy ffordd o Galway i Inis Mor
  • Taith bws mini o gwmpas Inis Mor
  • Mynediad i Noddfa Mulod Iwerddon
  • Mynediad i Dŷ a Gerddi Fota, Kinsale
  • Mynediad i Gastell a Pharc Gwerin Bunratty
  • Mynediad i’r “Titanic Experience” yn Cobh
  • Mynediad i Gastell Blarney
  • Mynediad i ganolfan Newbridge Silverware yn Kildare