Diwrnod 1: Teithio i Dover ac ymlaen i ddinas fywiog a hynod brydferth Arras yng Ngogledd Ffrainc – gwesty Mercure Arras Centre Gare sydd wedi’i leoli ynghanol y ddinas, dafliad carreg o’r Sgwâr Canolog. (4 noson Gwely a brecwast, 3 pryd nos)
Diwrnod 2: Taith i Amgueddfa’r Rhyfel Mawr yn Peronne, lle cawn gipolwg ar fywyd y milwyr yn y gyflafan waedlyd honno. Ymlaen wedyn i Amiens, dinas ddifyr gyda llu o atyniadau. Mae’r eglwys gadeiriol hardd a’r sgwâr o’i blaen wedi’u dynodi’n Safle Treftadaeth Byd UNESCO, ac yn werth eu gweld. Ceir digon o gaffis a siopau o’u cwmpas hefyd.
Diwrnod 3: Diwrnod rhydd i fwynhau atyniadau Arras. Mae’r ddinas hon ar y ffin â Gwlad Belg, a chwaraeodd ran allweddol yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae heddiw’n ddiwrnod marchnad, a bydd y ddau sgwâr canolog – y Grande Place a’r Place des Heros – yn llawn dop o stondinau a nwyddau o bob math i ddenu’r llygad. Bydd y cyfan drosodd erbyn amser cinio, a chewch gyfle wedyn i grwydro’r ddinas a mwynhau’r bensaernïaeth nodedig a’r llu o siopau coffi a bariau sy’n ei nodweddu. Cofiwch alw yn Neuadd y Dref (yr Hôtel de Ville) i weld y “cewri” rhyfeddol sydd yno!!!
Diwrnod 4: Ymweliad â’r Amgueddfa Awyr Agored (Musee de Plein Air) ger Lille. Yno ceir casgliad o dai ac adeiladau o bob math o wahanol gyfnodau, o ardaloedd Fflandrys a Picardy, ac arddangosir crefftau traddodiadol a bridiau prin yno hefyd. Safle difyr â rhywbeth at ddant pawb.
Ymlaen wedyn i weld cofeb y Cymry yn Passchendaele, ac wrth gwrs cael cyfle i dalu teyrnged wrth fedd ein harwr ni’r Cymry, Hedd Wyn. Wedi cyrraedd Ypres, cawn daith ar droed o gwmpas y dref, a chyfle i gael pryd o fwyd yn un o’r bwytai lleol, cyn tystio i’r “Last Post” wrth Borth Menin gyda’r nos.
Diwrnod 5: Cychwyn am adre. Ar y ffordd i’r porthladd byddwn yn galw yng nghanolfan siopa Cite Europe – cyfle olaf am fargen!!