Diwrnod 1: Cyrraedd Brwsel
Teithio i Dover i ddal y fferi i Calais ac ymlaen i’r gwesty ym Mrwsel. Mwynhewch swper yn y gwest heno i’w ddilyn gan gyflwyniad Powerpoint bywiog i hanes gwlad Belg a’r mannu y byddwn yn ymweld â nhw gan Dr. Guto Rhys.
Diwrnod 2: Brwsel ar droed
Heddiw byddwn yn mynd i falconi trawiadol Neuadd y Ddinas ar y Grand Place i weld y carped blodau enwog. Cawn daith hanesyddol o gwmpas y canol gan gynnwys gweld y Mannequin Pis, ac wedyn cewch fwyta yng nghalon y ddinas – un o’r harddaf yn Ewrop. Yn y prynhawn byddwn yn mynd i weld amgueddfa’r arlunydd swrealisaidd Magritte ac yn gorffen y dydd mewn amgueddfa siocled, lle cewch gyflwyniad i hanes a chyfleodd i flasu yn ogystal.
Diwrnod 3: Brwsel mewn bws
Heddiw byddwn yn crwydro, gyda’r bws. Yn gyntaf awn i weld Mini Europe ac yna esgyn i ben yr enwog Atomium. Yn y prynhawn cawn ddringo i ben y bwa trawiadol y Cinquantnaire, mwynhau’r olygfa drawiadol a thrafod rhywfaint o hanes y wlad fach fawr hon. Diwedda’r dydd yn y Belgian Beer World lle cewch gyfle i flasu cwrw gorau’r byd, sawl un mewn gwirionedd, ond byddwch yn ofalus!
Diwrnod 4: Bruges
Diwrnod hamddenol yn Bruges, yn mwynhau awyrgylch hanesyddol a chfoeth y ddinas bwysig a chanoloesol hon. Byddwn yn dringo i gopa’r clochdy anferthol i weld yr olygfa ysgytwol. Bydd cyfle ichi grwydro, gan fwynhau’r awyrgylch, mynd i weld un o gerfluniau Michaelangelo. Byddwn yn diweddu’r dydd gyda thaith braf ar gwch trwy’r camlesi hynafol.
Diwrnod 5: Dychwelyd
Teithio yn ôl am Calais ar gyfer y fferi i Dover a chwblhau’r siwrne adref i Ogledd Cymru.