Diwrnod 1 (Dydd Gwener): Cychwyn am Lundain yn ystod y bore i gyrraedd yn gynnar yn y prynhawn. Byddwn yn aros yng Ngwesty Hilton Kensingon am 2-noson (gwely a brecwast gyda swper nos Wener).
Mae gweddill y prynhawn yn rhydd i grwydro’r ddinas. Dychwelwch i’r gwesty ar gyfer swper buan, cyn i’r bws eich cludo i Gapel Cymraeg Eastcastle ar gyfer y cyngerdd. Bydd y bws yn eich cludo yn ôl i’r gwesty ar ddiwedd y perfformiad.
Diwrnod 2 (Dydd Sadwrn): Diwrnod rhydd yn Llundain. Cyfle i ymweld â’r nifer atyniadau yng nghanol Llundain neu i siopa.
Diwrnod 3 (Dydd Sul): Ar ôl brecwast, mwynhewch ychydig o amser i grwydro Llundain, cyn cychwyn adre i ogledd Cymru am 2.00pm.