Opening Times

01407 731080

Login / Register

Wales

MIRI MAWRTH ABERYSTWYTH – DYLAN MORRIS A BOIS Y BRWYN

28 March 2026

2 Days from just £189.00

Gwesty Marine Aberystwyth

YNG NGWESTY MARINE ABERYSTWYTH - MEGAN ABERYSTWYTH YN TREFNU - GWLEDD O ADLONIANT!!

PERFFORMWYR:

DYLAN MORRIS

BOIS Y BRWYN

CÔR CARDIGÂN

Atodiad Sengl £32


Seat available
Seat taken

Tours in this Itinerary

Departing

28 Mar, 2026

Duration

2

Price

£189

Hotel

Gwesty Marine Aberystwyth

Title

Miri Mawr Aberystwyth - Dylan Morris a Bois y Brwyn


Manylion y Daith

Diwrnod 1 (Dydd Sadwrn): Cychwyn am Aberystwyth yn ystod y bore i gyrraedd yn gynnar yn y prynhawn. Byddwn yn aros yng Ngwesty Marine am 1-noson (swper, gwely a brecwast). Mae gweddill y prynhawn yn rhydd i grwydro’r dref. Dychwelwch i’r gwesty ar gyfer swper, cyn uchafbwynt y penwythnos, noson o adloniant ‘Miri Mawrth’, sy’n cael ei gynnal yn y gwesty.

Diwrnod 2 (Dydd Sul): Ar ôl brecwast, mwynhewch ychydig o amser i grwydro Aberystwyth, cyn cychwyn adre i’r gogledd am 3.00pm.

Gwesty

Gwesty a Sba’r Marine Aberystwyth***

Mae Gwesty'r Marine, sydd wedi'i lleoli ar bromenâd hyfryd Aberystwyth, wedi cael ei rhedeg gan yr un teulu ers dros 30 mlynedd, a bellach yn croesawu'r drydedd genhedlaeth i redeg y gwesty! Mae’r gwesty wedi ei leoli yn ddigon agos i ganol y dref ond y tu hwnt i firi’r dref.

Mae’r Sba arfordirol yn cynnig yr encilfa berffaith i chi ymlacio ac ymbleseru ynddi wrth fanteisio ar driniaethau esmwythaol. Bydd llonyddwch y cyfleusterau tanddaearol yn eich galluogi i ddatgysylltu'n llwyr oddi wrth brysurdeb eich bywyd bob dydd.

Gall pob un o westeion y Gwesty ddefnyddio’r cyfleusterau Sba yn rhad ac am ddim. Pan fyddwch yn cyrraedd, ewch i'r dderbynfa i archebu amser ymlaen llaw er mwyn defnyddio'r cyfleusterau.

Cynnwys

  • 1 Noson Swper, Gwely a Brecwast
  • Tocyn i Noson Miri Mawrth
  • Bws moethus ar gyfer taith gyfforddus o’r gogledd i Aberystwyth