Opening Times

01407 731080

Login / Register

Wales

GŴYL CERDD DANT ABERYSTWYTH A’R FRO 2025

No tours available

Uchafbwynt gweithgareddau'r flwyddyn yw'r Ŵyl Cerdd Dant, gŵyl undydd a gynhelir bob mis Tachwedd.

Daw pobl o bob cwr o Gymru i gystadlu mewn llu o gystadlaethau gwahanol, gan gynnwys perfformiadau unigol, grwpiau a chyfuniadau arbennig.

Mae’r Ŵyl yn cynnig cyfle i gynulleidfaoedd fwynhau amrywiaeth eang o dalent, o berfformiadau traddodiadol i fwydlen o gerddoriaeth fwy modern.

Gŵyl un diwrnod yw hi sy'n llawn i'r ymylon o dalent o bob oed, gyda rhaglen sy'n mynd ymlaen tan hwyr y nos, gan greu awyrgylch bywiog lle mae cerddoriaeth a chymdeithasu yn mynd law yn llaw.

Atodiad Sengl £40

TOCYN I’R ŴYL YN YCHWANEGOL


Seat available
Seat taken

Tours in this Itinerary


Manylion y Daith

Diwrnod 1: Cychwyn am Aberystwyth yn ystod y bore a teithio’n syth i Westy’r Marine, lle byddwn yn aros am 1-noson (gwely a brecwast). Ar ôl ychydig o amser yn y gwesty, byddwn yn cwblhau ein taith i leoliad yr Ŵyl yn Aberystwyth, a mwynhau diwrnod o ganu, dawns a cherddoriaeth. Bydd y bws yn eich cludo yn ôl i’r gwesty pan fydd y gweithgareddau ar ben.

Diwrnod 2: Ar ôl brecwast, bydd ychydig o amser i grwydro Aberystwyth. Mwynhewch ginio carferi 3-cwrs cyn cychwyn adre i’r gogledd yn ystod y prynhawn.

Gwesty

Gwesty a Sba’r Marine Aberystwyth***

Mae Gwesty'r Marine, sydd wedi'i lleoli ar bromenâd hyfryd Aberystwyth, wedi cael ei rhedeg gan yr un teulu ers dros 30 mlynedd, a bellach yn croesawu'r drydedd genhedlaeth i redeg y gwesty! Mae’r gwesty wedi ei leoli yn ddigon agos i ganol y dref ond y tu hwnt i firi’r dref.

Mae’r Sba arfordirol yn cynnig yr encilfa berffaith i chi ymlacio ac ymbleseru ynddi wrth fanteisio ar driniaethau esmwythaol. Bydd llonyddwch y cyfleusterau tanddaearol yn eich galluogi i ddatgysylltu'n llwyr oddi wrth brysurdeb eich bywyd bob dydd.

Gall pob un o westeion y Gwesty ddefnyddio’r cyfleusterau Sba yn rhad ac am ddim. Pan fyddwch yn cyrraedd, ewch i'r dderbynfa i archebu amser ymlaen llaw er mwyn defnyddio'r cyfleusterau.

Cynnwys

  • 1 Noson Gwely a Brecwast yng Ngwesty’r Marine
  • Cinio Carferi 3-Cwrs, Prynhawn Dydd Sul
  • Bws moethus ar gyfer taith gyfforddus o’r gogledd i Aberystwyth
  • Bws o Westy’r Marine i’r Ŵyl Cerdd Dant ac yn ôl