Diwrnod 1: Teithio i Lerpwl a chael taith o amgylch y ddinas ar y bws gyda Gari. Taith bws o gwmpas cylch allanol y ddinas yn crynhoi rhai o brif lwyddianau y Cymry a ymfudodd i’r ddinas o 1775 hyd 1950.Bydd hyn yn cynnwys ymweld ag ardal Vauxhall lle codwyd y capel Cymraeg cyntaf yn y Pall Mall, Parliament fields a strydoedd Cymreig David Roberts y miliwnydd cydwybodol a’r philanthropydd o Llanrwst. Capel Y Welsh Cathedral yn Princes Rd ac ymlaen i fynwent Smithdown Rd i ymweld â bedd Gwilym Hiraethog a Harri Evans yr arweinydd corawl o Ddowlais.
Wedyn ar ôl gweld rhai o ryfeddodau Hope Street a Cathrin St cawn symud i ardal Anfield a Goodison ble ymfudodd miloedd o Gymry ac adeiladwyr rhwng 1860 a 1920. Ym mynwent Anfield cawn ymweld â beddau tri gwr busnes rhyfeddol o Fôn; Owen Elias a David Hughes Cemmaes, a William Venmore o Llanerchymedd. Cawn hefyd weld campweithiau Bill klondyke Jones o Llangwyllog yn Bootle a chapel Cymraeg Stanley Rd.
Amser rhydd hwyr yn pnawn cyn swper 3-chwrs yn y gwesty.
Diwrnod 2: Brecwast yn y gwesty, yna taith gerdded o amgylch y ddinas gyda Gari, mae heddiw yn golygu llawer o gerdded, fe'ch cynghorir i wisgo esgidiau cyfforddus.
Taith gerdded o gwmpas canol y ddinas gan ddechrau o flaen y Liver Buildings gyda cherflun y perchen llongau byd enwog, Alfred Lewis Jones o Gaefyrddin.Ymlaen i’r Town Hall at gadeiriau Pedrog a Dewi Emrys,prifeirdd Eisteddfodau Genedlaethol Lerpwl. Wedyn i dafarn y Denbigh Castle ar Hackins Hey ble roedd siop enwog Gwasg y Brython a rhif 9 Casle St ble safai y wasg a gyflwynodd inni Yr Amserau fel wythnosolyn Cymreig yn ogystal â’r llyfr emynau cyntaf swyddogol a gwaith Williams Pantycelyn.
Ymlaen wedyn at gerflun William Rathbone o flaen St Georges Hall (cyn Aelod Seneddol Sir Gaernarfon ac un o sefydlwyr Prifysgol Bangor}. Yna i London Rd at leoliad siopau arloesol TJ Hughes, ac Owen Owens Machynlleth.
Ar ôl ymweld â chapel rhyfeddol Chatham Street ym mhellach ymlaen cawn lymaid a hoe yn nhafarn unigryw y Philarmonic (campwaith pensaer Cymreig arall).
Bydd ychydig o amser rydd cyn cychwyn adref diwedd y prynhawn.